Join the team!
We're a small team of people with big ambitions to create a better world together.
We aim to 'walk the talk' and be the change we want to see.
We are a hard-working team who care about people and love spending time outdoors. We are looking for passionate and ambitious individuals who are keen to join a
team committed to making a difference.
If you thrive while doing work that changes lives and creating a positive impact on our planet, we want to hear from you!
Application Deadline: Sunday 10 November 2024 midnight
First Round Interviews: Week of 18 November 2024
Planned Start date: Week commencing 6 January 2025
Ymunwch â'r tîm!
Rydym ni’n dîm bach o bobl sydd ag uchelgeisiau mawr i greu byd gwell gyda'n gilydd.
Ein nod yw 'gweithredu ar ein geiriau' a bod y newid yr ydym ni am ei weld.
Rydym ni’n dîm gweithgar sy'n poeni am bobl ac wrth ein bodd yn treulio amser yn yr awyr agored. Rydym ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac uchelgeisiol sy'n awyddus i ymuno â
thîm sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth.
Os ydych chi'n ffynnu wrth wneud gwaith sy'n newid bywydau ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein planed, rydym ni eisiau clywed gennych chi!
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Sul 10 Tachwedd 2024 hanner nos
Cyfweliadau Rownd Gyntaf: Wythnos 18 Tachwedd 2024
Dyddiad Cychwyn Arfaethedig: Wythnos yn dechrau 6 Ionawr 2025
What are we looking for?
We are looking for talented and committed outdoor practitioners who know how the outdoors can be a used to create a better world for people and nature.
Our Group Facilitators come from a range of backgrounds: from land management to adventure activities, from teaching to play therapies, construction to social work – among many others!
We specialise in working with young people and adults who are from “disadvantaged” or “vulnerable” backgrounds. We’re looking for people with experience in working with these groups of people.
We also have a current need to grow our skills in traditional building methods, such as cob walling, and clay and lime rendering.
Sound like you? Get in touch!
Am beth rydym ni’n chwilio?
Rydym ni’n chwilio am ymarferwyr awyr agored talentog ac ymroddedig sy'n gwybod sut y gellir defnyddio’r awyr agored i greu byd gwell i bobl a natur.
Daw ein Hwyluswyr Grŵp o amrywiaeth o gefndiroedd: o reoli tir i weithgareddau antur, o addysgu i therapïau chwarae, adeiladu i waith cymdeithasol – ymhlith llawer o rai eraill!
Rydym ni’n arbenigo mewn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion sydd o gefndiroedd "difreintiedig" neu "fregus." Rydym ni’n chwilio am bobl sydd â phrofiad o weithio gyda'r grwpiau hyn o bobl.
Mae gennym ni hefyd angen cyfredol i dyfu ein sgiliau mewn dulliau adeiladu traddodiadol, megis creu waliau cob, a rendro clai a chalch.
Swnio fel chi? Cysylltwch â ni!
Responsibilities
The role of Group Facilitator does exactly that: it's the person responsible for facilitating activities with our groups.
Working alongside the Group Support Worker role (see other job advert), this role is all about delivering outdoor programmes which change lives.
From ensuring our inclusive, relationship-centred approach is embedded in each activity through to completing accreditation and monitoring paperwork, this is a diverse role which is mainly based outdoors and involves running practical activities with many different types of groups.
Responsibilities include:Group Preparations: Takes the lead in preparing programme content for each intake and organising the flow of each day- Outlines the programme content for the duration of the intake, responding and adapting to group needs as the programme progresses
- Coordinates the Practicalities such as venue, timings, learning outcomes, and group size and liases with Operations Manager as necessary
- Coordinates the completion of consent forms from group participants
- Takes the lead in creating daily session plans in partnership with the Support Worker
- Ensures RAMS are completed and signed off each day
- Orders new equipment when needed
- Assists with site set up and pack down, including cleaning when necessary
Participant Experience: Supports and engages participants to provide a positive and impactful experience and meet programme outcomes- Takes the lead in holding space for the group, setting the pace, and monitoring timing of the day
- Takes a person-centered approach in running group activities, adapting facilitation style to meet the participants where they are at
- Ensures accreditation achievement and other outcomes achievement by participants
- Supervises and supports Support Workers and volunteers.
- Manages any challenging situations with a restorative approach inline with our behavioural policies
Health & Safety Compliance: Ensures high standards of Health & Safety are maintained - Ensures compliance with Health & Safety & RAMS procedures
- Ensures all health & safety measures are being followed by Support Worker and participants
- Responds to any accidents with proper procedure and works with wider Down to Earth team to put learnings into place
- Identifies any Safeguarding issues and responds accordingly
Project Administration: Supports wider project outcomes- Supports Team Leader and Project Manager for wider Programme Development
- Takes responsibility for ensuring all accreditation, evaluations, daily records, and research paperwork and reporting is completed accurately and on time
- Supports Team Leader and Project Manager with recruitment of participants
- Contributes to funding reports with programme progress and impact
- Monitors training and sign-offs of Support Workers and new Group Facilitators
Individual Leadership & Team Participation: Takes initiative within the wider team and looks for creative solutions to challenges and supporting each other- When ‘sees something’ that could present a risk or opportunity, ‘says something’
- Works together with the team to come up with creative solutions
- Offers feedback to peers to support the overall success of the team in a constructive and supportive way, and is open to receiving feedback from others
- Supports team members with completing site and project activities as necessary
CyfrifoldebauMae rôl Hwylusydd Grŵp yn gwneud hynny'n union: dyma'r person sy'n gyfrifol am hwyluso gweithgareddau gyda'n grwpiau.
Gan weithio ochr yn ochr â'r rôl Gweithiwr Cymorth Grŵp (gweler hysbyseb swydd arall), mae'r rôl hon yn ymwneud â chyflwyno rhaglenni awyr agored sy'n newid bywydau.
O sicrhau bod ein dull cynhwysol sy'n canolbwyntio ar berthynas yn cael ei ymgorffori ym mhob gweithgaredd hyd at gwblhau gwaith achredu a monitro papur, mae hon yn rôl amrywiol sydd wedi'i lleoli yn yr awyr agored yn bennaf ac sy'n cynnwys cynnal gweithgareddau ymarferol gyda llawer o wahanol fathau o grwpiau.
Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys:
Paratoadau Grŵp: Arwain wrth baratoi cynnwys y rhaglen ar gyfer pob cymeriant a threfnu llif pob dydd
- Amlinellu cynnwys y rhaglen drwy gydol y cymeriant, ymateb ac addasu i anghenion grŵp wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen
- Cydlynu'r Sesiynau Ymarferol megis lleoliad, amseriadau, deilliannau dysgu, a maint y grŵp a chydlynu â'r Rheolwr Gweithrediadau yn ôl yr angen
- Cydlynu cwblhau ffurflenni caniatâd gan gyfranogwyr y grŵp
- Arwain wrth greu cynlluniau sesiwn dyddiol mewn partneriaeth â'r Gweithiwr Cymorth
- Sicrhau bod RAMS yn cael ei gwblhau a'i gymeradwyo bob dydd
- Archebu offer newydd pan fo angen
- Cynorthwyo gyda gosod a phacio’r safle, gan gynnwys glanhau pan fo angen
Profiad Cyfranogwr: Cefnogi ac ennyn diddordeb cyfranogwyr i gynnig profiad cadarnhaol ac effeithiol a bodloni canlyniadau'r rhaglen
- Arwain wrth gadw lle ar gyfer y grŵp, gosod y cyflymder, a monitro amseriad y dydd
- Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth redeg gweithgareddau grŵp, gan addasu arddull hwyluso i gwrdd â'r cyfranogwyr lle maen nhw
- Sicrhau cyflawniad achredu a chyflawniad canlyniadau eraill gan gyfranogwyr
- Goruchwylio a chefnogi Gweithwyr Cymorth a gwirfoddolwyr.
- Rheoli unrhyw sefyllfaoedd heriol gyda dull adferol yn unol â'n polisïau ymddygiadol
Cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch: Sicrhau bod safonau uchel o ran Iechyd a Diogelwch yn cael eu cynnal
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a RAMS
- Sicrhau bod yr holl fesurau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn gan y Gweithiwr Cymorth a chyfranogwyr
- Ymateb i unrhyw ddamweiniau gyda gweithdrefn briodol ac yn gweithio gyda thîm ehangach Down to Earth i roi yr hyn a ddysgwyd ar waith
- Nodi unrhyw faterion diogelu ac ymateb yn unol â hynny
Gweinyddu'r Prosiect: Cefnogi canlyniadau ehangach y prosiect
- Cefnogi Arweinydd Tîm a Rheolwr Prosiect ar gyfer Datblygu Rhaglen ehangach
- Cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod yr holl achrediadau, gwerthusiadau, cofnodion dyddiol, a gwaith papur ymchwil ac adrodd yn cael ei gwblhau'n gywir ac ar amser
- Cefnogi Arweinydd y Tîm a’r Rheolwr Prosiect gyda recriwtio cyfranogwyr
- Cyfrannu at adroddiadau ariannu gyda chynnydd ac effaith y rhaglen
- Monitro hyfforddiant a chofrestru Gweithwyr Cymorth a Hwyluswyr Grŵp newydd
Arweinyddiaeth Unigol a Chyfranogiad Tîm: Arwain o fewn y tîm ehangach a chwilio am atebion creadigol i heriau a chefnogi’r naill a’r llall
- Wrth 'weld rhywbeth' allai beri risg neu gyfle, 'dweud rhywbeth'
- Gweithio gyda'r tîm i lunio atebion creadigol
- Cynnig adborth i gyfoedion i gefnogi llwyddiant cyffredinol y tîm mewn ffordd adeiladol a chefnogol, a bod yn agored i dderbyn adborth gan eraill
- Cefnogi aelodau'r tîm i gwblhau gweithgareddau safle a phrosiect yn ôl yr angen
Working hours and location
Hours
We have an opening for a part-time (3 days a week, Monday-Wednesday) position with the possibility to increase hours as we grow.
We most often work Monday to Friday, however may require the occasional weekend work.
Our normal working hours are 8:30am - 4:30pm. Due to the nature of this role, we are unable to offer home-based working. Flexible working arrangements are limited due to programming of group work, however, when available, we aim to support flexible arrangements.
Location
This role will involves working outdoors from a range of locations across Swansea, Gower, and South Wales and may require commute times of up to 75 minutes from your home location. Due to the locations of our work, the role requires access to a personal vehicle.
Oriau gwaith a lleoliad
Oriau
Mae gennym ni gyfle ar gyfer swydd ran-amser (3 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Mercher) gyda'r posibilrwydd o gynyddu oriau wrth i ni dyfu.
Rydym ni rhan fwyaf o’r amser yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond efallai y bydd angen y gwaith achlysurol ar benwythnosau.
Ein horiau gwaith arferol yw 8:30am - 4:30pm. Oherwydd natur y rôl hon, ni allwn gynnig gweithio gartref. Mae trefniadau gweithio hyblyg yn gyfyngedig oherwydd rhaglennu gwaith grŵp, fodd bynnag, pan fydd ar gael, ein nod yw cefnogi trefniadau hyblyg.
Lleoliad
Bydd y rôl hon yn golygu gweithio yn yr awyr agored o amrywiaeth o leoliadau ar draws Abertawe, Gŵyr a De Cymru ac efallai y bydd angen amseroedd cymudo o hyd at 75 munud o'ch cartref. Oherwydd lleoliadau ein gwaith, mae'r rôl yn gofyn am fynediad i gerbyd personol.
Salary range
We offer a salary range of £25,500 to £28,000 per year for a full-time role of 37.5 hours per week. The salary offered is dependent on past experience and qualifications.
Ystod cyflog
Rydym ni’n cynnig ystod cyflog o £25,500 i £28,000 y flwyddyn ar gyfer swydd amser llawn o 37.5 awr yr wythnos. Mae'r cyflog a gynigir yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol.
Purpose & Scope
As a Group Facilitator, you are at the heart of what Down to Earth is about.
You work directly with our groups, empowering individuals with diverse needs as they participate in outdoor activities ranging from stick carving to building homes with sustainable materials. In any given week you may be working with school children, NHS patients, refugees, or members of the community at large, at locations across South Wales.
You take the lead in bringing an inclusive, relationship-centred approach and embed it into the diverse range of activities you facilitate. You also maintain high levels of health and safety standards ensuring the safety and well-being of our groups, team, and site visitors.
In addition to face-to-face work, you also support programme outcomes with participant recruitment, accreditation and monitoring.
Pwrpas a Chwmpas
Fel Hwylusydd Grŵp, rydych chi wrth wraidd pwrpas Down to Earth.
Rydych chi’n gweithio'n uniongyrchol gyda'n grwpiau, gan rymuso unigolion ag anghenion amrywiol wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn amrywio o gerfio ffyn i adeiladu cartrefi gyda deunyddiau cynaliadwy. Mewn unrhyw wythnos benodol, efallai eich bod yn gweithio gyda phlant ysgol, cleifion y GIG, ffoaduriaid, neu aelodau o'r gymuned yn gyffredinol, mewn lleoliadau ledled De Cymru.
Byddwch yn arwain wrth ddefnyddio dull cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar berthynas ac yn ei ymgorffori yn yr ystod amrywiol o weithgareddau rydych chi'n eu hwyluso. Byddwch chi hefyd yn cynnal lefelau uchel o safonau iechyd a diogelwch gan sicrhau diogelwch a lles ein grwpiau, ein timau a'n hymwelwyr safle.
Yn ogystal â gwaith wyneb yn wyneb, byddwch chi hefyd yn cefnogi canlyniadau'r rhaglen gyda recriwtio, achredu a monitro cyfranogwyr.
About us
Who we are
We believe we can create a better world - one which is good for people and good for the planet.
We believe in tackling inequality and the challenges of sustainability - at the same time - through a new inclusive way of working.
We do this through supporting people who are often on the margins of society - believing in people and creating opportunities to build a better world.
Not business as usual
We are most definitely not “business as usual”. Since 2005 we have been offering life-changing experiences to some of the most disadvantaged communities in Wales by involving them in creating stunning buildings and outdoor spaces with natural materials and renewable technologies.
By creating, using, and looking after these landmark facilities with our groups, we deliver health care and education in new and internationally recognised ways, showing how it's possible to create a better world: one that is good for people and good for the planet.
Down to Earth is an award-winning group of a social enterprises, we operate on a non-profit distributing model but strive to make a profit to further our impact. We are based on the Gower Peninsula, Swansea and do good work throughout South Wales.
Amdanom ni
Pwy ydym ni
Rydym ni’n credu y gallwn ni greu byd gwell - un sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned.
Rydym ni’n credu mewn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a mynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd - ar yr un pryd - trwy ffordd gynhwysol newydd o weithio.
Rydym ni’n gwneud hyn drwy gefnogi pobl sy'n aml ar ymylon cymdeithas - gan gredu mewn pobl a chreu cyfleoedd i adeiladu byd gwell.
Nid busnes fel arfer
Yn bendant nid ydym yn “fusnes arferol”. Ers 2005 rydym ni wedi bod yn cynnig profiadau sy'n newid bywydau i rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru drwy eu cynnwys adeiladau trawiadol a mannau awyr agored gyda deunyddiau naturiol a thechnolegau adnewyddadwy.
Trwy greu, defnyddio, a gofalu am y cyfleusterau nodedig hyn gyda'n grwpiau, rydym ni’n darparu gofal iechyd ac addysg mewn ffyrdd newydd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol, gan ddangos hefyd sut mae'n bosibl creu byd gwell: un sy'n dda i bobl ac yn dda i'r blaned.
Mae Down to Earth yn grŵp arobryn o fentrau cymdeithasol, rydym ni’n gweithredu ar fodel dosbarthu dielw ond yn ymdrechu i wneud elw i hyrwyddo ein heffaith. Rydym ni wedi ein lleoli ym Mhenrhyn Gŵyr, Abertawe ac yn gwneud gwaith da ledled De Cymru.